Grŵp Trawsbleidiol ar Haemoffilia

Dydd Mercher 6 Gorffennaf 2016

Ystafell Briffio'r Cyfryngau yn y Senedd

11.30 – 12.30

 

 

Yn bresennol:

Julie Morgan AC

Dai Lloyd AC

Neil McEvoy AC

Jane Hutt AC

Helen West (Swyddfa Julie Morgan AC)

Rachel Booth (Swyddfa Julie Morgan AC)

Natasha Shafer (Swyddfa Jane Hutt AC)

Kathy Bevan (Swyddfa Huw Irranca-Davies)

Lynne Kelly (Haemoffilia Cymru)

Cleifion

 

 

Cyfarfod agoriadol a CCB

 

Etholwyd Julie Morgan AC yn gadeirydd - enwebwyd gan Dai Lloyd

Etholwyd Dai Lloyd AC yn is-gadeirydd - enwebwyd gan Julie Morgan

 

 

Croesawodd Julie bawb i gyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Haemoffilia a Gwaed Halogedig.

 

Cyflwynodd cleifion eu hunain a disgrifio eu profiadau gyda Hep C a Haemoffilia.

 

Cyflwynodd Julie yr ACau oedd yn bresennol a staff eu swyddfeydd.

 

Yn dilyn eu cyfarfod cynharach gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, gofynnodd Julie i Lynne Kelly a'r cleifion i roi'r newyddion diweddaraf iddi hi a'r grŵp ar y sefyllfa ynghylch taliadau ex-gratia i Haemophiliaid a'u teuluoedd.

 

Disgrifiodd Lynne Kelly sut y cyfarfu ag Alun Cairns ym mis Ebrill a dywedodd ef mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y taliadau.  Ni chafwyd unrhyw gyfathrebu cynhwysfawr rhwng San Steffan a Bae Caerdydd.  Mae llywodraeth yr Alban wedi dweud nad yw llywodraeth Cymru wedi bod yn gydweithredol iawn.  Yn dilyn cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Haemoffilia a Gwaed Halogedig a gynhaliwyd yn San Steffan, dywedodd Jane Ellison na fyddai unrhyw fformiwla Barnett ar gyfer yr arian i'w roi mewn taliadau, felly byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i'r arian.  Fodd bynnag, dywedodd yr Arglwydd Brampton y byddai Fformiwla Barnett, felly mae pawb wedi drysu.

 

Mae taliadau gweddwon Ymddiriedolaeth McFarlane (a sefydlwyd ym 1988 gan Lywodraeth Prydain i gefnogi pobl sydd â haemoffilia a gafodd eu heintio â HIV o ganlyniad i gynhyrchion gwaed halogedig y GIG, a'u gwŷr/gwragedd, rhieni, plant a dibynyddion) yn dod o Lywodraeth Cymru ar gyfer Hepatitis C. Credir y bydd teuluoedd rhwng £8,000 a £10,000 yn waeth eu byd gyda'r system daliadau newydd yn Lloegr.

 

Dylai llywodraeth Cymru weithredu cynllun taliadau'r Alban - sydd yn llawer fwy hael.  Mae'r Alban wedi datgan eu cyfrifoldeb ac wedi bod yn fwy tosturiol na Chymru a Lloegr.  Nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn ei chyfrifoldeb i helpu.

 

Ni fydd unrhyw beth i gleifion sy'n byw gydag effeithiau ariannol cael y clefyd.

 

Mae cynllun taliadau Iwerddon yn llawer gwell na chynllun yr Alban.

 

Dywedodd Dai Lloyd y dylai Cymru gyfarfod â'r Alban ac Iwerddon i drafod y taliadau.  Mae'n rhaid i Gymru ddangos tosturi a helpu'r rhai yr effeithir arnynt gan waed halogedig.

 

 Trafodaeth gyda chleifion - disgrifiwyd y straen meddyliol o gael y clefyd, a hefyd  gorfod delio â straen y newidiadau mewn taliadau.  Cafodd 5000 o gleifion eu heintio yn y 1980au - mae 2000 wedi marw hyd yn hyn.  Mae'r cleifion yn teimlo bod y llywodraeth yn aros iddynt farw fel nad oes rhaid iddynt dalu iawndal.  Cafodd y cleifion eu heintio â gwaed a gasglwyd o garchardai yn America.

 

Gofynnodd Julie beth ddylai'r grŵp ei wneud i symud ymlaen.  Mae angen cael gwybod gan Vaughan Gething beth sy'n digwydd.  Mae angen cysylltu'n uniongyrchol â'r Alban ac Iwerddon.  Byddai Julie a Lynne yn cyfarfod i drafod y ffordd ymlaen.  Mae angen i aelodau'r grŵp gyfarfod gyda Vaughan Gething ar sail drawsbleidiol.

 

Diolchodd Julie i bawb am ddod a daeth y cyfarfod i ben.